Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Constitutional and Legislative Affairs Committee

                                                                                                       

 

Alun Davies AC

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Llywodraeth Cymru

Pumed Llawr

Tŷ Hywel

Bae Caerdydd

CF99 1NA

 

22 Hydref 2013

9 Gorffennaf 2013

 

 

 

 

 

 

 

 

                                          

 

Annwyl Weinidog

 

 

Y Bil Rheoli Ceffylau (Cymru)

 

 

1.       Diolch i chi am ymddangos gerbron y Pwyllgor ddoe i roi tystiolaeth am y Bil uchod, a gyflwynwyd gennych ddydd Llun 14 Hydref 2013.

 

2.       Cyn cynnal dadl Cyfnod 1 yn ddiweddarach heddiw, rydym wedi nodi ychydig o sylwadau ar sail y sesiwn a gynhaliwyd ddoe.

 

Hepgor Cyfnod 1 o broses ddeddfu’r Cynulliad Cenedlaethol 

 

3        Nodwn fod y Pwyllgor Busnes wedi cytuno i hepgor gwaith craffu Cyfnod 1 o'r Bil ar 24 Medi 2013.

 

4.       Mae diffyg proses graffu ar y Bil hwn yng Nghyfnod 1 yn peri cryn bryder i ni.

 

5.       Yn arbennig, rydym wedi canfod nifer o anghysonderau posibl yn y Bil hwn (a drafodir yn ddiweddarach). Credwn y byddai wedi bod o fantais i'r ddeddfwriaeth pe bai'r pwyllgorau perthnasol wedi cael rhagor o amser i ystyried y Bil hwn a hynny gyda rhanddeiliaid perthnasol.  

 

6.       Un o brif ddibenion Cyfnod 1 yw deall nodau ac amcanion y ddeddfwriaeth a rhan o'r broses honno yw galluogi rhanddeiliaid i ymgysylltu â phwyllgorau'r Cynulliad. Mae’r broses honno yn helpu'r ddeddfwrfa i ganfod meysydd lle y byddai'n bosibl gwella'r ddeddf newydd er mwyn cynorthwyo Llywodraeth Cymru i gyflwyno'r ddeddfwriaeth orau bosibl.   

 

7.       Yn hynny o beth, mae'n werth nodi bod y gwaith ymgynghori ac ymgysylltu a wnaiff pwyllgor Cynulliad yn wahanol yn y bôn i'r gwaith a wnaiff Llywodraeth Cymru, a hyd yn oed yn fwy felly pan fo Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori ar y polisi sy’n sail i’r Bil yn hytrach na geiriad y Bil ei hun.     

 

8.       Nodwn eich bod wedi dosbarthu Bil drafft i gynrychiolwyr y pleidiau ym mis Medi. Credwn y byddai wedi bod yn fwy priodol i chi wneud y trefniadau gweinyddol angenrheidiol a fyddai wedi galluogi’r ddeddfwriaeth i gael ei chyflwyno ddechrau’r tymor. Byddai hyn wedi caniatáu i bwyllgorau'r Cynulliad chwarae mwy o ran yn y gwaith o graffu arni, er y byddai hynny hefyd wedi bod yn llai o amser na'r hyn a ganiateir fel arfer.

 

9.       Ar ôl dweud bod angen cael y ddeddfwriaeth hon ar y llyfr statud erbyn dechrau'r gaeaf, mae hefyd yn syndod nad yw'r Bil, yn ôl eich cyfaddefiad eich hun, yn debygol o gael Cydsyniad Brenhinol tan yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Mae hyn yn peri i ni amau beth yw'r brys mewn gwirionedd ar gyfer y ddeddfwriaeth hon, yn arbennig gan ei bod yn ymddangos o'n gwaith craffu ni mai ychydig iawn o ymdrech a wnaeth Llywodraeth Cymru i gyflymu ei phrosesau ei hun o ran llunio polisi.

 

10.     Rydym yn derbyn y gallai fod yn angenrheidiol, o bryd i'w gilydd, i gyflymu deddfwriaeth ac mae'r rheolau sefydlog presennol yn darparu ar gyfer proses o'r fath.

 

11.     Er hynny, dyma'r trydydd Bil yn olynol gan Lywodraeth Cymru lle mae'r gwaith craffu wedi cael ei gwtogi. Rydym yn pryderu bod hyn yn dechrau dod yn arferiad ac yn thema barhaus yn agwedd Llywodraeth Cymru tuag at y gwaith craffu ar ddeddfwriaeth y mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn ei wneud.

 

Adran 3 - Hysbysiadau ynghylch ymafael ac ati

Adran 5 - Gwaredu ceffylau sydd wedi eu cadw  

 

12.     Mae Adran 5(1) yn darparu y caiff yr awdurdod lleol waredu ceffyl ar ddiwedd cyfnod o saith niwrnod gan ddechrau gyda'r diwrnod perthnasol os nad yw'r perchennog (na pherson sy'n gweithredu ar ran y perchennog) wedi cysylltu â'r awdurdod neu wedi methu â thalu costau rhesymol yr awdurdod.  Mae Adran 5(2) yn diffinio'r 'diwrnod perthnasol' drwy gyfeirio at y dyddiad y rhoddir hysbysiad o dan adrannau 3(4) a 3(3).  Mae Adran 3(3) yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod lleol roi hysbysiad i'r person yr ymddengys mai ef yw'r perchennog (neu ei fod yn gweithredu ar ran y perchennog) ac i gwnstabl. 

 

13.     Mewn tystiolaeth, fe wnaethoch esbonio y byddai hysbysiad i gwnstabl yn unig yn ddigon pe na bai'n bosibl dod o hyd i'r perchennog.  Os mai

 

 

dyna'r bwriad, credwn y dylai geiriad adran 3(3) gael ei ddiwygio i egluro hynny.

 

Argymhelliad 1: Rydym yn argymell y dylech ystyried cyflwyno gwelliannau i adolygu eglurder yr adrannau o’r Bil sy’n ymdrin â rhoi hysbysiad, yng nghyd-destun pwerau awdurdodau lleol i waredu ceffylau.

 

Adran 7 - Apelau

 

14.     Nodwyd eich bod wedi dweud, yn ystod y sesiwn dystiolaeth, fod yn rhaid i'r Bil ddarparu ar gyfer proses apelio. Rydym yn cytuno â chi, gan ein bod o'r farn y byddai hyn yn cyflawni goblygiadau sy'n deillio o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn llawnach ac yn fwy eglur.

 

Argymhelliad 2: Rydym yn argymell y dylech ystyried cyflwyno gwelliant i adran 7(1) o'r Bil i'w gwneud yn ddyletswydd ar Weinidogion Cymru i ddarparu ar gyfer hawl i apelio mewn cysylltiad ag unrhyw fater sy'n codi o dan y ddeddfwriaeth.

 

15.     Er ein bod yn croesawu eich penderfyniadau i nodi fframwaith ar wyneb y Bil yn egluro beth y caiff y rheoliadau eu cynnwys, ni allwn ddychmygu gweithdrefn apelio nad yw'n cynnwys rhai, os nad y cyfan, o'r darpariaethau a restrir yn adran 7(2). Yn benodol, rydym o'r farn bod y darpariaethau a nodir yn adrannau 7(2)(a) a 7(2)(g) yn rhai mor bwysig fel bod yn rhaid i reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru eu cynnwys.

 

Argymhelliad 3: Rydym yn argymell y dylech ystyried adolygu adran 7(2) gyda'r bwriad o gyflwyno gwelliannau i'w gwneud yn ofynnol i reoliadau gynnwys rhai, os nad y cyfan, o'r darpariaethau a restrir ym mharagraffau (a) i (g).

 

16. Nodir eich barn y dylai rheoliadau a wneir o dan adran 7 fod yn ddarostyngedig i’r weithdrefn negyddol. Rydym yn anghytuno. Rydym ni’n credu y dylai rheoliadau sy’n sefydlu proses apelio fod yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol. Mae hyn yn arbennig o bwysig yma, o gofio’r amserlen, a’r risg y caiff ceffylau eu difa.

 

Argymhelliad 4: Rydym yn argymell y dylech gyflwyno gwelliant i adran 7(3) o’r Bil yn cymhwyso’r weithdrefn gadarnhaol i wneud rheoliadau o dan adran 7.

 

 

 

 

 

 

 

Adran 9 - Dehongliad

 

17.     Rydym yn nodi eich barn, ac yn cytuno y dylai fod statws cyfartal i’r testun Cymraeg a'r testun Saesneg o ran y diffiniad o geffylau.

 

Argymhelliad 5: Rydym yn argymell eich bod yn cyflwyno gwelliant i sicrhau, o ran y diffiniad o geffylau yn adran 9, fod statws cyfartal i’r testun Cymraeg a'r testun Saesneg.

 

Yn gywir

 

 

 

 

Simon Thomas

Cadeirydd dros dro